Carreg bwmis o arfordir y Môr Canoldir yn ne Ffrainc. | |
Math | craig folcanig |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o graig igneaidd a ffurfir gan echdoriadau llosgfynyddoedd yw pwmis. Craig ysgafn a mandyllog ydyw a wneir o wydr folcanig hynod o geudodol, gyda maint bychan o fwynau grisialaidd. Mae ganddi ansawdd unigryw oherwydd ei chrynodiad uchel o swigod nwy, neu geudodau, a ddalier yn y lafa wrth iddo galedu ar ffurf maen.
Craig igneaidd byroclastig ydyw a darddir o fagma, bron yn hollol hylifol wrth iddo dywallt o'r ddaear, a châi ei oeri a'i ddirwasgu mor gyflym fel nad oes amser iddo risialu. Wrth ymsolido, rhyddheir yr anwedd yn sydyn gan achosi'r defnydd i chwyddo a throi'n ewyn, a chaledu'n syth. Fel arfer ffurfir pwmis o fasalt neu andesit, ond gall hefyd drawsnewid o dracyt neu ryolit. Gall gynnwys mwynau megis ffelsbar, awgit, cornblith, a sircon. Mewn amgylchiadau tebyg, ond gyda rhagor o wasgedd, ffurfir obsidian o'r lafa yn hytrach na phwmis.[1]
Defnyddir pwmis mewn cyfansoddion ysgraffiniol i lanhau, caboli, a sgwrio, er enghraifft mewn sebon a chosmetigau diblisgo. Fe'i defnyddir hefyd wrth adeiladu, fel agreg ysgafn mewn gwaith maen rhagfwrw, concrit arllwys, teils ynysu ac acwstig, a phlastr. Mae garddwyr yn dodi pwmis yn y pridd i wella draeniad ac awyriad.